: big bash
or send a text (stating 'BIGB75' and an amount: £1, £2, £5, £10 or £100) to 70070
Webcast is sponsored by Hafod Mastering

Ar 17eg & 18fed Ebrill 2015, rwy'n bwriadu dathlu 'mhenblwydd yn 40 drwy chwarae drymiau am 40 awr di-dor, gan godi arian ar gyfer yr elusen WaterAid. Bydd 'The Big Bash 2015' yn wledd o gerddoriaeth, gyda jazz jam, gweithdai agored, disgyblion yn drymio, brwydr fawreddog, sesiynnau acwstig, bandiau byw a mwy. Ychwanegwch fwyd a diod da; gemau; peintio gwynebau; ocsiwn amlenni caedig; ac yn y blaen, ac mae'n addo bod yn barti ysblennydd i'r teulu cyfan, sydd hefyd yn codi arian ar gyfer achos gwych.
**MYNYCHIAD DRWY WAHODDIAD YN UNIG!**
felly isod fe gewch chi'r holl fanylion heblaw sut i gyrraedd! Da chi rhowch alwad, neges neu ebost os hoffech chi ddod ond nad ydych chi'n gwybod ble mae'r lleoliad.
P'UN AG Y GALLWCH CHI DDOD NEU BEIDIO...
Byddwch chi'n gallu gwylio'r digwyddiad cyfan yn fyw ar y we, yma ar y dudalen hon. Ymunwch a ni o bedwar ban byd!
Os y'ch chi'n Trydar, gallwch chi ddilyn y paratoi a'r digwyddiad ei hun drwy ddilyn @TheBigBash2015.
Gallwch chi gyfrannu drwy
- wasgu'r botwm yma

- ymweld a www.justgiving.com/TheBigBash2015
- anfon neges destun at 70070, gan gynnwys y cod BIGB75 a swm (£1, £2, £5 neu £10).
Nawr te, y manylion ymarferol...
GWISG
Cynnes!! Dyw'r ty crwn *ddim* yn adeilad confensiynol, ac mae mwy o awyr iach yno nag sy'n gyfforddus weithie! Da chi gwisgwch ddigonedd o ddillad cynnes, a sgidie call hefyd. Mae'n bosib yn ychwaneg yr hoffech chi ddod a chlustoig, blanced neu gadair fach i eistedd arni.
BWYD & DIOD
Bydd te a choffi, teisienod eithriadol o flasus, peis hyfryd, diod meddal a diod gadarn ar gael i'w prynu drwy'r penwythnos. Rwy'n gobeithio byddwch chi'n gwario'ch arian ar y rheiny! Croeso ichi ddod a'ch bwyd a diod eich hun hefyd os hoffech - ac os am bryd mwy sylweddol, mae tafarn dda a cafe gerllaw.
(**Os hoffech gyfrannu at y bwrdd cacennau, a/neu gwell fyth, dreulio awr neu ddwy yn edrych ar ol y tegell neu'r bar, newch chi adael imi wybod?!**)
DEWCH A
- sgidie cadarn a *digon* o ddillad cynnes fel a grybwyllwyd eisioes!
- eich plant os hoffech chi, yn enwedig ar gyfer y pnawn/nos Sadwrn. Bydd yn ddigwyddiad addas-i'r-teulu (heblaw am y cyfnodau hwyr y nos!)
- nifer fach o ffrindiau penna!
- eich offeryn os carech chi chwarae
- eich pabell/cerbyd os hoffech chi aros
- eich waled!
PEIDIWCH A DOD AG
- anrhegion, dioch (cyfraniadau at WaterAid yn eu lle o.g.y.dd.!)
- anifeiliaid anwes, heb ofyn gynta
- unrhywun na fasech chi'n cyflwyno i'ch mamgu
CYMDOGION
A fyddech gystal a pharchu'n cymdogion drwy yrru'n ofalus drwy'r pentre, a thrwy gadw'r swn at lefelau cwrtais dros nos? Mae defnydd a pharhad y Ty Crwn yn ddibynol ar ewyllus da ein cymdogion. Diolch!
GWIRFODDOLWYR
*Byddwn ni angen rhywfaint o help!**
Felly os carech chi gynnig llaw am gwpwl o oriau gyda:
- 'logistics' ar y pryd
- trefnu'r llwyfan ac offer
- pobi teisennod (ymlaen llaw!)
- gwerthu te/coffi a theisen
- gwerthu diod a pheis!
wnelech chi gysylltu â fi?
(Fe rown ni'ch enw ar restr; bydd y restr gan Fós pob adran wedyn, fel y gallan nhw alw ar bobl bryd bynnag mae yna alw. Fel'ny, gobeithio bydd dim angen i neb wneud gormod!) Diolch o galon!
-----------------
TREFN Y PENWYTHNOS
Dyma fraslun o ddigwyddiadau mwyaf nodweddol y penwythnos, er wrth gwrs gallai hyn newid. Mae disgrifiadau pellach o bob eitem isod hefyd. Bydd digonedd o weithgareddau eraill yn digwydd drwy'r penwythnos yn ogystal, ac mi arhosai'n agored at unrhyw syniadau da sy'n codi ar y pryd!
DYDD GWENER
08:00 - Y cychwyn!
(Rhybydd ichi: bydd eitha tipyn o'r dydd Gwener pan fydda'i dim ond yn chwarae ar fy mhen fy hun - gallai hynny fod yn llai difyr na rhai cyfnodau eraill!) ;)
11-12:00 - Gweithdai ysgol
13-14:00 - Gweithdai ysgol
17:00-19:00 Gweithdy drymio Affricanaidd dan arweiniad Aaron Meli
20:00 - Dathliad bach 12-awr!
20:30 ymlaen - Noson Jazz Agored
ac ymlaen a ni...
DYDD SADWRN
01:00 - 'Ballads Hour'
02:00 ymlaen - "Sesiwns Sisial!"
08:00 Dathliad bach 24 awr!
09-12:00 - Disgyblion yn drymio
12:00 "Geek hour!" Gweithdy rhythm agored, anffurfiol.
13-16:00 - Disgyblion yn drymio
16:20 - Deuawd Penblwydd yn 61!
18:00 - Brwydr Ddrymiau Fawreddog!
20:00-21:15 - 'That Funky Trio'
22:00 tan y terfyn am ganol nos - Goose
DYDD SUL
Diwrnod hamddenol o frecwastau araf, cwmni da, hel straeon, a chlirio'n ara' deg!
-------------
Wele ddisgrifiad cwta o'r holl ddigwyddiadau ar yr amserlen uchod.
GWEITHDAI YSGOL
Bydd Aaron Meli, sy'n arbenigwr ar ddrymio Affricanaidd, yn gweithio gyda phlant o rai o'r ysgolion lleol yn ystod y cyfnodau yma. Mae siwr o fod groeso ichi wylio, ond gadewn ni i'r plant wneud y drymio!
GWEITHDY OFFERYNNAU TARO AGORED
Yn ogystal a'i arbenigedd, digwydd bod Aaron Meli hefyd yn un o'r dynion mwya dymunol ar wyneb y ddaear! Bydd ei weithdy agored yn gynnar nos Wener yn ffordd wych *i bawb* ddrymio ar y cyd, p'un ai am y tro cynta erioed neu'r milfed. Gallwch chi ddisgwyl offerynnau rhyfeddol, awyrchgylch gynhwysol, a llwythi o frwdfrydedd heintus Aaron. Peidiwch a'i golli, bydd yn ffordd wych o ddechrau'ch penwythnos.
NOSON JAZZ AGORED IAWN
Bydd unrhywun sydd wedi mynychu un o'r rhain o'r blaen yn gyfarwydd a'r fformat yma... Bydd 'house band', sef Pedwarawd Jazz y Ty Crwn (Donal Whelan, tenor sax; Matthew Holt, allweddellau; Ashley John Long, bas dwbl; iolo Whelan, drymie). Bydd hefyd (ni'n gobeithio) gerddorion jazz o blith ein ffrindiau a'n cyfoedion yno i ymuno a ni am gan neu don.
Y bwriad yw fod pob un o'r cerddorion gwadd yn chwarae nifer o donau yr un gyda'r pedwarawd - felly pwy a wyr pa gyfuniadau neu ddarganfyddiadau newydd wnaiff ddigwydd!
Ry'n ni'n tueddu i chwarae'r tonau y mae cerddorion jazz yn hoff o'u chwarae i'w plesio'u hunain: dwi'n meddwl y byddwch chi'n eu mwynhau hefyd!
'BALLADS HOUR'
Bydd yn aml un neu ddwy don dawelach, arafach mewn cyngerdd jazz, ond anaml gallwch chi chwarae sawl un o'r bron. Bydd y sesiwn hwyr y nos yma, pan fo angen inni gadw'n weddol dawel, yn gyfle perffaith i chwarae gymaint o 'ballads' ac y mynnwn - o leia tra bod rhai o'r cerddorion yn dal i sefyll!
SESIWNS SISIAL!
Byddwn ni'n parchu'n cymdogion drwy chwarae'n dawel drwy gydol y nos. Mae hwyl i'w gael gyda brwshys, ffyn meddal a dwylo ar y drymie - a gobeithio rhywfaint o gerddoriaeth acwstig gan rai o'n cyfeillion talentog. *Fe ddwlen i ychydig o gwmni i'm helpu gadw ar ddihun yn y cyfnod tawel yma - rhowch floedd os hoffech chi wirfoddoli am y shifft hwyr!*
DISGYBLION YN DRYMIO
Bydd llawer o'm disgyblion yn casglu nawdd i wneud eu drymio di-dor eu hunain - o 10 munud (sy'n amser hir os y'ch chi'n chwech oed!) hyd at awr ar y tro. Bydd tri set ddrymie yno, a phob disgybl yn cymryd tro am jam, nail ai un neu ddau ar y tro. Dewch i gefnogi drymwyr y dyfodol yn eu perfformiadau cynnar!
JAM PENBLWYDD YN 61!
Rwy'n rhannu penblwydd gydag un o 'nghyn ddisgyblion: mae Rory O'Neill ar fin gorffen gradd mewn drymio yn Brighton, ac fe fydd yn troi'n 21 oed yr un diwrnod ag y byddai'n ddeugain - cyfle da am ddeuawd! Mwynhewch weld drymiwr ifanc talentog wrthi'n dod i oed ar ei offeryn ac ar ddechrau gyrfa gyffrous!
BRWYDR Y DRYMWYR!
Fersiwn epig o hen draddodiad, bydd chwe set o ddrymiau yn ein brwydr fawreddog! Gallwch weld chwech o ddrymwyr proffesiynol rhugl, profiadol a cherddorol yn cyd-weithio a byrfyfyrio rhyddmau, syniadau ac unawdau. Does dim modd o wybod beth fydd yn digwydd, ond byddwch barod am dipyn o sioe!
'THAT FUNKY TRIO'
Bydd y triawd yma'n cynnig yn union beth ddywed y teitl! Byddai'n symyd draw at set offerynnau taro llaw er mwyn ymuno a'r triawd bywiog yma. Gallwch ddisgwyl caneuon cyfarwydd ar newydd wedd dan arweiniad Richard Metherall, cerddoriaeth heintus ar allweddellau, bas a drymie i ysgogi'r dawnsio a dechrau'r parti go iawn!
'GOOSE'
Tim llethol o gerddorion lleol dan arweiniad diddan a dawnus Colum Regan: bydd y band profiadol yma'n ceisio codi'r to i orffen y noson - diweddglo disglair i'r digwyddiad.